Canolbwynt Cyflogaeth Conwy

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn “siop un stop” ar gyfer cyflogadwyedd sydd wedi ymroi i helpu preswylwyr Conwy atgyfnerthu eu sgiliau, dod o hyd i gyflogaeth, cyfleoedd profiad gwaith a swyddi gwirfoddol.

Mae’n cynnal rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cymorth mentora dwys i bobl ddi-waith sy’n 20+ oed ac sy’n wynebu rhwystrau cymhleth. Mae hyn yn cynnwys magu hyder; cyrsiau wedi’u cyflwyno gan bobl broffesiynol a chyrsiau hyfforddiant wedi’u hariannu’n llawn i fagu sgiliau; cymorth i ddod o hyd i waith, ac aros mewn gwaith; a chymorth ariannol i oresgyn rhwystrau rhag cael hyfforddiant a gwaith.

Mae ganddi raglen hefyd sy’n helpu ac yn cefnogi pobl ifanc 16-19 oed i ddatblygu sgiliau gydol oes a hynny wrth gynnig llwybr clir at gyflogaeth

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn gweithio’n agos â chyflogwyr ar draws pob sector yn Sir Conwy i helpu i lenwi swyddi gwag a chynnig cymorth ym meysydd eraill, fel hyfforddiant a datblygu, cynnal ffeiriau swyddi rheolaidd a thrwy gynnig gwasanaeth unigryw paru swyddi ac ymgeiswyr.

Conwy employment hub

Beth sydd ar gael

Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.

Cefnogaeth i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli / profiad gwaith

Hyfforddiant a chyrsiau byr

Cymorth gydag Iechyd Meddwl a Llesiant

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image