Wedi helpu dros 550 o bobl i ddod o hyd i waith

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym dîm pwrpasol sydd ar gael ar draws Sir y Fflint sy’n darparu mentora a chyngor un-i-un. Rydym yn wasanaeth sy’n seiliedig yn y gymuned ac yn gweithio i wella sgiliau gwaith ar gyfer pobl sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant sydd o bosib yn wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth. Gall Cymunedau am Waith a Mwy roi cefnogaeth i chi er mwyn helpu i feithrin eich hyder, ennill rhywfaint o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ailysgrifennu eich CV. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn eich helpu fel unigolyn ac yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.

Oes gennych chi ddiddordeb?

  • 20+ oed?
  • Ydych chi’n ddi-waith a ddim yn mynd i goleg/prifysgol?
  • Yn byw yn Sir y Fflint?
  • Yn chwilio am waith neu hyfforddiant?

Efallai eich bod yn gymwys am Gymunedau am Waith a Mwy.

Beth sydd ar gael

Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.

Cefnogaeth i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Hyfforddiant a chyrsiau byr

Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli / profiad gwaith

Cymorth gydag Iechyd Meddwl a Llesiant

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image