Yn eich helpu chi i gael eich swydd ddelfrydol

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cymorth cyflogadwyedd a sgiliau am ddim i breswylwyr 16+ oed Sir Ddinbych sy’n anweithredol, yn ddi-waith neu mewn gwaith â thâl isel. Rydym ni’n darparu cymorth magu hyder a llesiant drwy weithgareddau cefnogi arloesol i baratoi ar gyfer y byd gwaith.

Mae ein gwasanaeth cymorth cyflogadwyedd a sgiliau un i un yn cynnig cyngor ac arweiniad unigryw i helpu i oresgyn heriau a rhwystrau rhag cyflogaeth, boed y rhwystrau hynny yn ymwneud ag iechyd, arian, gwybodaeth/arbenigedd, trafnidiaeth a chymaint mwy.

Mae ein Cynllun Dechrau Gweithio yn darparu lleoliadau profiad gwaith â thâl a heb dâl ac rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i leihau bylchau sgiliau drwy ein cyrsiau sydd wedi’u hariannu’n llawn a swyddi diogel.

Working Denbighshire Job Club dates and times graphic

Beth sydd ar gael

Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.

Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith

Cefnogaeth i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith.
Taledig a heb dâl

Hyfforddiant a chyrsiau byr
Cyllid ar gael yn dibynnu ar gymhwysedd

Cymorth gydag iechyd meddwl a llesiant

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image