Hwb Ddatgarboneiddio

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth ag Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor, mae’r safle yn dod yn ganolfan ddatgarboneiddio ar gyfer Gogledd‑orllewin Cymru, gan gefnogi cymunedau a busnesau i ôl‑osod cartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae Canolfan Seilwaith, Sgiliau a Thechnoleg Busnes@LlandrilloMenai (CIST) a Hyfforddiant Net Sero Gwynedd yn darparu hyfforddiant arbenigol ym maes adeiladu a datgarboneiddio o Dŷ Gwyrddfai, Penygroes, gan gefnogi unigolion a busnesau i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio cartrefi.

Mae’r meysydd hyfforddiant yn cynnwys:

  • Ynni adnewyddadwy – gosod a chynnal systemau solar PV, storio batris, pympiau gwres ffynhonnell aer a daear
  • Ôl-osod – systemau inswleiddio waliau allanol ac arferion gorau ôl-osod
  • Effeithlonrwydd ynni – effeithlonrwydd gwresogi domestig a pherfformiad adeiladau
  • Datgarboneiddio – technolegau carbon isel a dulliau tŷ cyfan
Quote from Matt Powell | Rheolwr Perthynas | Aico

Mae Tŷ Gwyrddfai yn newid y gêm yng Ngogledd Cymru, gan uwchsgilio’r gymuned leol ar y daith tuag at Sero Net.

Matt Powell | Rheolwr Perthynas | Aico

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image