Rydym yn rhoi cyfleoedd newydd i bobl ifanc sy’n haeddu gwell
Yn ein rhaglen ‘WeBridge to Employment’, rydym yn meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr, gan bontio’r bwlch rhwng cyflogwyr a phobl ifanc 16-25 oed.
Rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid o’r un anian sy’n awyddus i ddatgloi potensial pobl ifanc er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr a chyfrannu at eu symudedd cymdeithasol.
Rydym eisiau ei gwneud yn haws i gyflogwyr gael hyd i bobl ifanc a’u recriwtio, eu helpu i ddal gafael arnynt a’u datblygu er mwyn lleihau risg a dod yn hyrwyddwr cyflogaeth ieuenctid. Byddwn yn cyflwyno pobl ifanc sy’n llawn cymhelliant ac yn ‘barod am waith’ i gyflogwyr dibynadwy, darparu mentora yn y gwaith yn ystod cyfnodau prawf a darparu cyfleoedd hyfforddiant staff penodol.
Ar hyn o bryd, rydym yn cyflwyno rhaglenni ar draws Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr:
WeDiscover | Ar gael ar draws Gogledd Cymru
Rhaglen rithiol tri mis, lle gall pobl ifanc ddysgu mwy amdanynt eu hunain, magu hyder a sgiliau, a chael cynllun clir ar gyfer eu dyfodol.
WeGrow | Ar gael yn Sir y Fflint a Wrecsam
Rhaglen lawn 12 mis o hyd yn cynnwys chwe mis o gyflogaeth – gan gynnwys pum gwahanol leoliadau gwaith, mentora bywyd, sgiliau a chyfleoedd newydd – ac yna chwe mis o gymorth pwrpasol. Pob un wedi’u cyflwyno â chymorth, cariad a gofal.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
(ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweld, mentora etc.)
Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith.
Cymorth gydag Iechyd Meddwl a Llesiant
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau






Mae’r chwe mis yma a thu hwnt wedi agor drysau, ac wedi rhoi imi gyfleoedd anhygoel a sgiliau bywyd gwych ar gyfer y dyfodol.
Myfyriwr Graddedig WeGrow