NEWYDDION

Golau gwyrdd i Barth Buddsoddi £160m Sir y Fflint a Wrecsam

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

19.12.2025

Screenshot

Mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraethau’r DU a Chymru – gan nodi dechrau rhaglen 10 mlynedd a fydd yn trawsnewid economi’r rhanbarth.

Bydd y gwaith bellach yn dechrau o ddifrif, gyda rhaglen o grantiau, hyfforddiant, gwelliannau seilwaith a chefnogaeth fusnes yn helpu i ryddhau cyfleoedd newydd i gyflogwyr, buddsoddwyr a chymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Is-Gadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru, y corff strategol sy’n cydlynu’r gwaith:

“Drwy ganolbwyntio ar Gynhyrchu Uwch, Arloesi, Sgiliau a Seilwaith, bydd y Parth Buddsoddi yn chwarae rôl hollbwysig wrth yrru twf economaidd cynaliadwy.

“Bydd yn helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ac yn cryfhau safle’r rhanbarth fel canolfan bŵer ar gyfer diwydiant uwch yng Nghymru, ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ffurfiol. Dyma ddechrau taith gyffrous iawn i Sir y Fflint a Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hwn yn gam hynod gadarnhaol, a bydd y Parth Buddsoddi newydd yn rhoi platfform i ni ddenu buddsoddiad, syniadau a chyfleoedd newydd – gan gefnogi busnesau, creu swyddi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

“Mae gan Sir y Fflint a Wrecsam sylfaen anhygoel o weithgynhyrchwyr arloesol o safon fyd-eang eisoes, ac fe fydd y Parth Buddsoddi’n ein helpu i adeiladu ar hyn ac i ryddhau potensial enfawr y rhanbarth.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Bydd Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cyflawni ein Cenhadaeth Economaidd drwy ddenu buddsoddiad mawr, creu miloedd o swyddi â chyflog da, a chryfhau enw da’r rhanbarth fel canolbwynt ar gyfer cynhyrchu uwch ac arloesi.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn ganlyniad gwaith partneriaeth helaeth rhwng partneriaid rhanbarthol a’r llywodraethau, ac mae’n cyflwyno cyfle enfawr i ryddhau twf a darparu manteision sylweddol i fusnesau a chymunedau yn yr ardal.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

“Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £160 miliwn yn y Parth Buddsoddi hwn i danio twf economaidd, yrru buddsoddiad preifat a chreu miloedd o swyddi newydd â chyflog da a fydd yn rhoi arian ym mhocedi pobl yng Ngogledd Cymru.

“Mae potensial enfawr ar gyfer twf ac ar gyfer adeiladu ar yr arbenigedd cynhyrchu uwch sydd eisoes yn bodoli yn y rhan hon o Gymru. Rwy’n falch iawn ein bod yn symud ymlaen gyda’r rhaglen, a fydd yn cael effaith drawsnewidiol ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y gogledd-ddwyrain.”

Adeiladu Gweithlu Medrus ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam

Gan gynnig mewnwelediad o safbwynt y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, pwysleisiodd Sian Lloyd Roberts:

“Mae sgiliau wrth wraidd Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle unigryw i ni gryfhau piblinell dalent y rhanbarth a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at yr hyfforddiant o ansawdd uchel sydd ei angen i ffynnu mewn cynhyrchu uwch a diwydiannau sy’n dod i’r amlwg.

“Drwy weithio’n agos gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a phartneriaid ar draws y Gogledd, gallwn sicrhau bod ein gweithlu’n meddu ar y sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar fusnesau i arloesi, tyfu a chystadlu’n fyd-eang. Ni fydd y Parth Buddsoddi yn unig yn creu swyddi newydd – bydd yn helpu pobl leol i ddatblygu’r gallu i’w hennill, gan gefnogi ffyniant hirdymor i’n cymunedau.

Strategaeth Sgiliau’r Parth Buddsoddi

Dysgwch ragor am y flaenoriaethau sgiliau sy’n sail i Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn y Strategaeth Sgiliau.