NEWYDDION

Sgiliau Foltedd Uchel yn Tanio Uchelgais Gyrfa

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

18.07.2025

Mae myfyrwyr lleol wedi cwblhau Hyfforddiant Personau Foltedd Uchel yn llwyddiannus fel rhan o’u profiad gwaith yr wythnos hon.

Cafodd disgyblion y chweched dosbarth o Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch eu cyflwyno i egwyddorion diogelwch allweddol, sgiliau technegol, a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â gweithio gyda systemau foltedd uchel. Trwy’r cwrs, dysgodd y myfyrwyr am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys adnabod peryglon foltedd uchel, gweithredu systemau gwaith diogel, cynnal gweithdrefnau ynysu a phrofi, defnyddio offer diogelu personol yn gywir, trin offer arbenigol, ac ymateb i argyfyngau.

Dywedodd Mia Owen Hughes, disgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones:

“Ar ôl cael cipolwg ar Morlais mewn digwyddiad gyrfaoedd rhaglen Seren, cefais fy ysbrydoli i ddod yma ar gyfer fy mhrofiad gwaith. Rwyf wedi mwynhau fy amser gyda Menter Môn Morlais yn fawr ac rwy’n awyddus i ddeall mwy am swyddi yn y maes hwn.”

Mae gweithio gyda ysgolion a cholegau yn rhan o ymrwymiad parhaus Menter Môn Morlais i ysbrydoli myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd yn y sector ynni adnewyddadwy.

Mae un o’r myfyrwyr wedi cwblhau’r rhaglen Ysbrydoli i Adeiladu, a gyflwynwyd gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol ar y cyd â Menter Môn, ac ers hynny wedi dewis gwneud profiad gwaith gyda Morlais.

Quote from Gruff Parry | Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Llangefni

Bydd y cyfleoedd a gynigiwyd i mi drwy’r rhaglen Ysbrydoli i Adeiladu a’r profiad gwaith gyda Morlais yn amhrisiadwy wrth i mi wneud cais i’r brifysgol i astudio peirianneg ac wrth i mi ystyried gyrfa yn y diwydiant. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r tîm yma yn Menter Môn.

Gruff Parry | Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Llangefni

Darparwyd yr hyfforddiant gan EDS HV Group, cwmni sy’n arbenigo mewn hyfforddiant peirianneg foltedd uchel ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy.

Ychwanegodd Fiona Parry, Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant gyda Menter Môn Morlais:

“Rydym yn hynod ddiolchgar i EDS HV Group am ddarparu’r cyfle hyfforddiant gwerthfawr hwn ac am gefnogi ein hymrwymiad i annog pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd yn y sector pwysig a chynyddol hwn.”

Llwyddiant Ysbrydoli i Adeiladu!!

Mae Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru wrth ei bodd yn gweld un arall o straeon llwyddiant y Ysbrydoli i Adeiladu!

Meddai Catherine Morris-Roberts, Uwch Swyddog Cyflwyno Sgiliau gyda Phartneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru, wrth iddi fyfyrio ar lwyddiant y rhaglen a’r effaith o gyfraniad Morlais:

“Mae’n wych clywed sut mae’r rhaglen wedi helpu i lunio dyfodol pobl ifanc wrth iddynt edrych ymlaen at y brifysgol a gyrfaoedd ym maes peirianneg ac adeiladu.

Diolch enfawr i Morlais am gyflwyno sesiwn mor effeithiol ac am roi cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc archwilio gyrfaoedd yn y sector adnewyddadwy sy’n tyfu.”

Clywch beth oedd gan Gruff i’w ddweud am ei brofiad o Ysbrydoli i Adeiladu