YN ÔL I SECTORAU
North Wales Skills Portal | Construction icon

Adeiladu

Mae’r sector adeiladu yng Ngogledd Cymru yn ddiwydiant cyffrous a datblygol, sy’n agor drysau di-rif i bobl sy’n awyddus i ddylanwadu ar eu hamgylchedd a’u cymunedau. Mae’r sector hwn yn cynnwys tri phrif faes: seilwaith (adeiladu ffyrdd a phontydd), adeiladau preswyl a masnachol yn ogystal a phrosiectau ynni adnewyddadwy fel ffermydd gwynt a thai cynaliadwy.

Mae sawl llwybr i mewn i’r maes adeiladu, yn cynnwys cyrsiau coleg a phrifysgol, prentisiaethau, yn ogystal â phrentisiaethau gradd. Mae’r llwybrau hyn yn arwain at swyddi megis peirianneg sifil, rheoli prosiect, tirfesur, a chrefftau medrus, gan sicrhau bod cyfleoedd i bawb, waeth beth fo’u cefndir.

Am ragor o wybodaeth ynghylch gyrfaoedd yn y maes adeiladu, cymerwch olwg yma: Mae’r Maes Adeiladu yn Yrfa heb ei Fath | Go Construct

Dewch o hyd i ragor o ystadegau a gwybodaeth ynghylch y Sector Adeiladu.

TWF

2021 - 2027

+1.1%

PROFFIL Y GWEITHLU

89.2% 9.1%

16-24 oed

12.5%

25-49 oed

48.5%

50+

37%

Galwedigaethau y mae galw amdanynt

Penseiri

£37,000

Peirianyddion Sifil

£32,500

Plastrwyr

£29,000

Rolau Ôl-osod

£35,000