Tyfwch eich busnes gyda ni

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn cynnig cymorth wedi’i deilwra ar gyfer busnesau a’u staff, gan gynnwys cyrsiau proffesiynol hyd at lefel 7, hyfforddiant byr, dysgu seiliedig ar waith, a phrentisiaethau hyd at lefel gradd.

P’un a ydych yn chwilio am Gyrsiau MicroDysgu i uwchsgilio eich tîm, rhaglenni proffesiynol i ddatblygu gyrfaoedd, neu wasanaethau arbenigol i fynd i’r afael â heriau penodol i’r diwydiant – mae cymorth ar gael.

Mae gwasanaeth CAMVA yn pontio’r bwlch rhwng dysgwyr a chyflogwyr, gan gynnig cyfle i fusnesau ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf, gyda chymorth i hysbysebu a llenwi swyddi gwag.

Trwy amrywiaeth o hyfforddiant a gwasanaethau wedi’u teilwra, mae Busnes@LlandrilloMenai yn gwella effeithlonrwydd, cynaliadwyedd a thwf eich busnes, gan eich helpu i lwyddo.

Uwchsgilio gyda MicroDysgu

Dysgu Effaith Uchel, Tarfu Isel

Mae MicroDysgu Busnes@LlandrilloMenai yn cynnig hyfforddiant hyblyg, cost-effeithiol ac amser-effeithlon i helpu unigolion a thimau dyfu gyda chanlyniadau mesuradwy.

Gyda dull cyflwyno cymysg, llwybrau wedi’u teilwra, a chynnwys ymarferol, mae’n datblygu sgiliau mewn arweinyddiaeth, cyfathrebu, perfformiad ac amrywiaeth.

Darganfyddwch ffordd newydd o ddysgu ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur ar draws Gogledd Cymru.

Hyfforddiant Arbenigol

Mae Canolfan CIST yn Llangefni yn gyrchfan hyfforddi arweiniol yn y DU ar gyfer sgiliau adeiladu, seilwaith a thechnoleg arbenigol, wedi’i chefnogi gan bartneriaethau arbenigol, gan gynnig hyfforddiant achrededig mewn adeiladu, peirianneg sifil ac ôl-osod.

Beth sydd ar gael

Hyfforddiant a Chyrsiau Byr

Prentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy

Gradd-brentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy

Cymorth i Recriwtio

Gradd-brentisiaeth

Cyngor a chefnogaeth i fusnesau o bob maint
Datblygiad, sgiliau, cyngor ac arweiniad

Grantiau/Cyllid ar gael i fusnesau neu fusnesau newydd

Lleoliadau / Profiad Gwaith

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image