Cymwysterau NEWYDD yn Llysfasi fydd yn cefnogi dyfodol ffermio yng Nghymru
Datgelodd Coleg Cambria raglenni Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) a Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) wedi’u hanelu at y genhedlaeth nesaf o reolwyr fferm, bugeiliaid, ffermwyr, ac arweinwyr yn y sector.
Wedi’i leoli ar safle Llysfasi’r coleg, ger Rhuthun – lle’r agorwyd yr Hwb Arloesi gwerth £10m yn ddiweddar a chyflwyno cynlluniau ar gyfer adeilad llety myfyrwyr 50 ystafell wely – mae’r cyrsiau’n cynnwys modiwlau ar ystod eang o bynciau.
Yn eu plith mae Busnes ac Amgylchedd Busnes, Rheoli Prosiect Llwyddiannus, Egwyddorion Cynhyrchu Da Byw, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Peiriannau a Thechnoleg Diwydiannau’r Tir, a Chyfrifeg a Gweinyddu Busnes Gwledig.
Dywedodd Deon Mynediad ac Addysg Uwch (AU) Cambria, Emma Hurst: “Mae’r cymwysterau hyn yn darparu myfyrwyr gyda sylfaen wybodaeth eang, sgiliau technegol uwch a chyfleoedd i fyfyrwyr fynd ymlaen a dilyn ystod eang o yrfaoedd o fewn diwydiannau’r tir.
“Yn ogystal â chael mynediad at y tîm anhygoel o ddarlithwyr a siaradwyr gwadd yn Llysfasi, gall y rhai sy’n ymuno â’r cyrsiau HND neu HNC elwa o gael mentrau llaeth, gwartheg sugno a defaid ar y safle, tiwtor personol ar gyfer cymorth un-i-un, a phrofiad bywyd go iawn amser real gan ddefnyddio sgiliau ymarferol ar fferm fasnachol weithredol 1,000 erw.
Gyda datblygiadau mewn amaethyddiaeth fanwl, technoleg glyfar a dulliau ffermio newydd, nid oes unman gwell i ddysgu, gan fod Cambria yn enwog am fod ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn addysg amaethyddiaeth.
Cefnogwyd yr Hwb Arloesi blaengar gyda thros £5.9m o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Adeiladwyd y cyfadeilad carbon niwtral 1,095 metr sgwâr deulawr gan Read Construction o Wrecsam ac mae’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, labordai, siop goffi, wal ddringo, mannau cyfarfod, atriwm, canolfan Addysg Uwch a hwb llesiant.
Dywedodd Pennaeth Llysfasi, Elin Roberts: “Mae’r adeilad yn anhygoel ac eisoes yn boblogaidd iawn gyda’r myfyrwyr a’r staff, gan fod yr offer, y mannau cyfarfod, academaidd a gweithdai a’r holl ystafelloedd a’r adnoddau yn anhygoel,” meddai Elin.
“Bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyrsiau Amaethyddiaeth AB ac AU yn cael mynediad at yr addysgu gorau mewn amgylchedd croesawgar heb ei ail o’r radd flaenaf yn yr ardal hon – yn bendant dyma’r amser i ddewis Coleg Cambria ar gyfer cam nesaf eich taith academaidd neu yrfa yn y sector ffermio.
Sector Bwyd a Ffermio
Darganfyddwch fwy am y sector Bwyd a Ffermio yng Ngogledd Cymru neu ewch i Goleg Cambria i archwilio cyrsiau sydd ar gael mewn Amaethyddiaeth.
