NEWYDDION

Lansio Sgil Sparc i Ysbrydoli Dyfodol STEM

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

26.08.2025

Mae M-SParc wedi brandio ein gwaith allgymorth sgiliau yn swyddogol, gyda lansiad cyffrous Sgil Sparc, a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf trwy weithdai, rhaglenni a gweithgareddau sy’n seiliedig ar y cwricwlwm. Wedi’i ddylunio a’i ddatblygu gan dîm o Addysgwyr, bydd Sgil Sparc yn sianel o adnoddau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid, ac athrawon ac addysgwyr.

Mae nod Sgil Sparc yn syml ac yn hanfodol; creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymgysylltu â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Drwy sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae Sgil Sparc yn sicrhau bod dysgu STEM yn gyffrous, yn hygyrch ac yn uniongyrchol berthnasol i addysg pobl ifanc. Mae’r holl raglenni’n cael eu hariannu drwy M-SParc, heb adael unrhyw rwystrau i gyfranogiad, ac mae’r gwahanu hwn yn caniatáu i brif sianel M-SParc gadw ei ffocws ar gymorth busnes, arloesedd, a’r ecosystem ehangach.

Mewn cydnabyddiaeth amserol o’r gwaith, mae Sgil Sparc newydd gael ei rhoi ar restr fer rhaglen STEM y flwyddyn yng Ngwobrau STEM Cymru, gyda’r rheolwr tîm Emily Roberts ar restr fer Menyw STEM y Flwyddyn.

Dywedodd Emily, Rheolwr Allgymorth a Chymuned:

Mae M-SParc yn gartref i dros 50 o gwmnïau tenantiaid, ac mae ein hecosystem yn tyfu. Roedd yn siomedig clywed cyflogwyr yn dweud eu bod yn cael trafferth dod o hyd i’r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn lleol, ac ar y llaw arall clywed bod pobl ifanc yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw opsiynau yn y rhanbarth pan fyddant yn tyfu i fyny. Yn hytrach nag aros am ateb, penderfynon ni greu un. Mae’r ffaith bod y rhaglenni hyn yn cael eu cydnabod ar restr fer genedlaethol yn coroni’r cyfan ar gyfer y lansiad hwn, a dan ni’n falch iawn o’n gwaith ac yn falch o allu ei arddangos ar blatfform o’r fath.

Ar hyn o bryd mae rhaglenni Sgil Sparc yn canolbwyntio ar Entrepreneuriaeth, Creadigol-Digidol, ac Ynni, ac maent wedi’u cynllunio a’u profi dros 12 mis gydag adborth gan arweinwyr addysg, awdurdodau lleol, a diwydiant i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru ac anghenion diwydiant lleol. Mae pob un yn cymryd hyd at wythnos i’w gyflwyno, gan ddarparu cyfle dysgu manwl sy’n seiliedig ar brosiectau i ddisgyblion ac athrawon. Mae datblygu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wrth wraidd y rhaglenni, yn ogystal â chyswllt â’r ardal leol i sicrhau bod y prosiectau mor berthnasol a chyfredol â phosibl i’r plant a’r bobl ifanc.

Mae ein gwaith i bontio’r bwlch sgiliau yn parhau ar ôl i’r gloch ganu, wrth i Emily ymhelaethu:

Yn ogystal â’n rhaglenni Sgil Sparc pwrpasol, mae gennym weithgareddau Clwb Sparci i blant dan 11 oed, a GOFOD i blant hŷn, sy’n ein galluogi i gyflwyno sesiynau blasu ac undydd i wlychu archwaeth pobl a dangos pa mor hygyrch y gall STEM fod. Mae’r rhain i gyd wedi’u curadu’n ofalus gan ein Swyddogion STEM, sydd â phrofiad addysgu a gwybodaeth am gwricwlwm Cymru.

 

Lansiwyd y brand newydd yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, un o wyliau diwylliannol enwocaf Cymru. Mwynhaodd y cynulleidfaoedd arddangosfa ddiddorol o STEM byw gyda lansiad cyntaf “Y Sioe Wyddoniaeth Fawr” a oedd yn cynnwys gweithgareddau ymarferol, gan roi cyflwyniad i’r hyn sydd gan Sgil Sparc i’w gynnig.

Nawr, mae’r Sioe Wyddoniaeth Fawr yn gwneud ei ffordd i ysgolion, gan ddod â rhaglenni STEM a gweithgareddau “Clwb Sparci” i ddisgyblion ledled gogledd Cymru mewn digwyddiadau undydd, gan alluogi pawb i fod yn rhan o’r dyfodol cyffrous hwn. Bydd rhaglenni Sgil Sparc manwl yn parhau yn yr ysgolion hynny sy’n gallu ymrwymo i brofiadau dysgu hirach. Mae tîm Sgil Sparc yn awyddus i glywed gan ysgolion yng ngogledd-orllewin Cymru sy’n dymuno cymryd rhan, a bydd system archebu ar waith yn fuan.

Mae sgiliau STEM yn hanfodol ar gyfer dyfodol y gweithlu ac mae Sgil Sparc yn anelu at helpu ac annog pobl ifanc i allu caffael y sgiliau hyn. Drwy gyflwyno Sgil Sparc, mae M-SParc yn atgyfnerthu ei rôl fel grym gyrru arloesedd ac effaith gymunedol, gan sicrhau bod manteision ei waith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fyd busnes ac i fywydau teuluoedd ac ysgolion.

Dywedodd Uwch Swyddog STEM a Sgiliau Ffion Medi:

Mae’n anrhydedd i mi agor llygaid arloeswyr y dyfodol i’r llwybrau gyrfa posibl yma yng Ngogledd Cymru yn rheolaidd. Mae’r dyfodol yn ddisglair, ac mae’n hyfryd gweld ein gwaith yn cael ei ddathlu’n genedlaethol gyda’r enwebiadau hyn. Gwyliwch y gofod, oherwydd mae gennym ni bethau cyffrous wedi’u cynllunio i danio uchelgais a phontio’r bwlch sgiliau.

Dim ond y dechrau yw hwn i Sgil Sparc. Gyda thîm ymroddedig a chynlluniau i ehangu gweithgareddau ymhellach, mae Sgil Sparc yn ymwneud â rhoi hyder i blant a phobl ifanc archwilio eu potensial. Drwy feithrin uchelgais a chreadigrwydd o oedran cynnar, mae Sgil Sparc yn helpu i baratoi cenhedlaeth newydd i gofleidio cyfleoedd y dyfodol.

Dilynwch ni ar Facebook, Instagram a TikTok i weld y diweddaraf, a chadwch lygad am ein digwyddiadau Clwb Sparci a Gofod rwan ac yn y dyfodol.

Quote from Ffion Medi | Uwch Swyddog STEM a Sgiliau

Mae’r cyffro a’r brwdfrydedd sydd gan y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw dros ddysgu am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg ac entrepreneuriaeth yn heintus, ac yn fraint i’w weld bob wythnos.

Ffion Medi | Uwch Swyddog STEM a Sgiliau