NEWYDDION

Wythnos Addysg Oedolion Cymru

Angharad Evans

Angharad Evans

12.09.2025

Cymerwch ran yn Wythnos Addysg Oedolion eleni rhwng 15 a 21 Medi.

Cynhelir dewis eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y Gogledd wrth i bobl o bob oed gael eu hannog i gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion eleni a gynhelir rhwng 15 a 21 Medi.

Mae cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb, sesiynau blasu, cyngor a gwybodaeth i hybu rhagolygon gyrfa, sgiliau, hyder a llesiant pobl ar gael drwy gydol mis Medi.

Edrychwch ar wefan Wythnos Addysg Oedolion Cymru i ganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal – https://wythnosaddysgoedolion.cymru/ .

Wedi’i chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, nod yr Wythnos Addysg Oedolion yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu gydol oes ar draws y wlad. Neges gryf yr ymgyrch yw: Paid stopio dysgu.

Nod yr Wythnos Addysg Oedolion yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod cyfleoedd dysgu ac i gael cyngor a chymorth am yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Cynhelir digwyddiadau drwy gydol mis Medi.

Yn y Gogledd, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnal ffair swyddi ym Mwyty a Bar 1891, Theatr Pavilion, East Parade, y Rhyl ar 10 Medi rhwng 10am a 2pm. Mae’r digwyddiad ar agor i bawb ac nid oes angen apwyntiad.

Ar 19 Medi, rhwng 11am a 1pm, mae Partneriaeth Parc Caia yn cynnal Sesiwn Flasu Sgiliau Bywyd Cam i Annibyniaeth i gefnogi oedolion ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn cynnal cyfres o gyrsiau, yn cynnwys sesiwn flasu ffeltio yn Ysgol Bodorgan, Bodorgan ar 11 Medi rhwng 10am a 1pm.

Cynhelir cwrs ysgrifennu creadigol am bedair wythnos yn Llyfrgell Bae Colwyn, gyda gwersi rhwng 11am a 1pm, yn dechrau ar 11 Medi, a bydd sgiliau garddio yn bwnc cwrs pedair wythnos yng Nghanolfan Gymunedol Pengwern, Llangollen, gyda gwersi wythnosol rhwng 10am a 1pm, yn dechrau ar 12 Medi.

Mae’r Little Learning Company hefyd yn brysur gyda chyrsiau, yn cynnwys cyflwyniad i macrame ar 15 Medi, rhwng 1pm a 3pm, cyflwyniad i argraffu bloc pren ar 16 Medi rhwng 1pm a 3pm, ymarfer cadair ar 18 Medi ac yoga cadair ar 19 Medi rhwng 10:30am i 11:30am Cynhelir yr holl weithgareddau yn Hyb Llesiant Wrecsam, Ffordd Caer, Wrecsam.

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cynnal cyfarfod rhwydweithio ‘Coffi, Cacen a Chydweithio’ yn yr Hyb Llesiant, 31 Stryd Caer, Wrecsam ar 16 Medi rhwng 1pm a 3pm ar gyfer cyrff trydydd sector i gwrdd, rhannu syniadau ac ymchwilio cyfleoedd i gydweithio.

Mae’r un sefydliad yn anelu i hybu sgiliau cyfweld pobl yn Llyfrgell Wrecsam ar 17 Medi rhwng 1pm a 3pm a bydd yn cynnal Gweithdy Sgiliau Hanfodol yn Refurbs, Bwcle ar 18 Medi rhwng 10am a 12pm i wella sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd.

Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnal dyddiau agored a digwyddiadau ar-lein yn cynnwys digwyddiad i israddedigion ar 20 Medi rhwng 10am i 2pm, gan alluogi pobl i siarad gyda staff a myfyrwyr a darganfod cyfleusterau a gwasanaethau cymorth.

Mae Coleg Cambria yn cynnal dosbarthiadau ar-lein ar gyfer Saesneg a Mathemateg i wella sgiliau a hyder ac agor cyfleoedd mewn addysg bellach a swyddi.

Caiff cwrs ar ddefnyddio peiriant gwnïo ar gyfer dechreuwyr gan Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Grŵp Llandrillo Menai rhwng 11 Medi a 9 Hydref rhwng 9:30am a 12pm.

Mae gwefan yr Wythnos Addysg Oedolion yn cynnwys cannoedd o ddigwyddiadau, cyrsiau ac adnoddau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn rhad ac am ddim. Mae hefyd yn cynnwys straeon sy’n ysbrydoli am unigolion a aeth ati i ddysgu fel oedolion ac yn cynnwys dolenni i gyngor ac arweiniad arbenigol gan Cymru’n Gweithio ar ailhyfforddi, Cyfrifon Dysgu Personol, gofal plant a chymorth ar gyfer dileu swydd.

Gofynnir i’r sawl sy’n cymryd rhan i ymuno yn y dathliad cenedlaethol a sgwrs am ddysgu gydol oes ar y cyfryngau cymdeithasol drwy dagio gweithgareddau yn defnyddio hashnodau #paidstopiodysgu #neverstoplearning a #wythnosaddysgoedolion #adultlearnersweek ar X, LinkedIn, Facebook ac Instagram.

Mae partneriaid yr ymgyrch yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau a chyrsiau blasu yn y gymuned i ymestyn allan i bobl sydd eisiau meithrin eu hyder i ddechrau dysgu. Bydd y rhaglen hefyd yn arddangos cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth neu newid gyrfa, i gysylltu yn y gymuned a chefnogi iechyd a llesiant. Caiff yr holl weithgaredd hwn ei gefnogi gan gyngor ac arweiniad i helpu i ddechrau arni.

Mae sgiliau digidol, celf a chrefft, iechyd a llesiant, rhifedd a llythrennedd, sgiliau bywyd, yr amgylchedd, ieithoedd, gwyddorau cymdeithasol ymhlith y pynciau a gaiff eu trafod.

O sesiynau blasu rhad ac am ddim i gyngor arbenigol, mae rhywbeth i bawb. I gael arweiniad personol ar eich taith ddysgu, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu chwilio https://workingwales.gov.wales.