Tyfu’ch Busnes
Dewch o hyd i gyfleoedd newydd yng Ngogledd Cymru i dyfu eich busnes, o gael gafael ar gyllid i recriwtio a datblygu staff.
Recriwtio Staff
Awyddus i recriwtio? Ymchwiliwch i opsiynau recriwtio eraill sydd ar gael ar garreg eich drws.
O recriwtio drwy ddulliau traddodiadol fel hysbysebion ar fyrddau swyddi i ddewis dulliau eraill fel defnyddio rhaglenni cyflogadwyedd, mae yna opsiynau sydd wedi’u teilwra ar gael ar eich cyfer chi fel cyflogwr!

Datblygu Staff
Mae uwchsgilio eich gweithlu yn dasg ddidrafferth gyda chymorth darparwyr lleol. Mae’r rhaglenni hyfforddi wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, gan ymateb i anghenion penodol y busnes.
Manteision Datblygu Sgiliau
- Cynhyrchedd Uwch: Mae gweithwyr medrus yn fwy effeithlon ac effeithiol.
- Cadw Cyflogeion: Mae buddsoddi mewn datblygiad staff yn cynyddu bodlonrwydd swydd a theyrngarwch.
- Twf Busnes: Gweithlu medrus sydd wrth wraidd arloesedd a’ch gallu i gystadlu.

Cadw Staff
Yn y farchnad swyddi heriol sydd ohoni, lle ceir nifer o swyddi gwag a llai o bobl i’w llenwi, mae cadw staff yn bwysicach nag erioed. Gall recriwtio gweithiwr newydd i swydd gostio 6-9 mis o gostau cyflog, felly mae’n hanfodol eich bod yn canolbwyntio ar ddal gafael ar eich tîm presennol.
Yn aml, mae gweithwyr yn gadael gan na allant weld llwybr i ddatblygu. Mae digonedd o gyfleoedd i’w cael yng Ngogledd Cymru i gefnogi staff i gyflawni eu potensial.

Cyfleoedd cyllid
Benthyciadau dechrau busnes
Cyllid Arloesi
Cyllid busnes
Talebau sgiliau
Banc Datblygu Cymru | Micro Fenthyciadau
Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig micro fenthyciadau o £1,000 i £100,000 i helpu busnesau newydd i dyfu ac i’ch gweld chi’n mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Os ydych chi’n chwilio am gyllid i sefydlu eich busnes, fel arfer mae gofyn i chi wneud cyfraniad o’ch arian personol. Pa bynnag sector ydych chi’n camu iddo, gall benthyciadau dechrau arni eich helpu chi i dalu am y costau cychwynnol o ddechrau busnes.
Rhagor o wybodaethSyniadau Mawr Cymru | Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc
Bydd y Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc yn galluogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain, creu menter gymdeithasol, mynd yn hunangyflogedig, yn weithiwr llawrydd neu’n entrepreneur cymdeithasol yng Nghymru. Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu pobl ifanc ddechrau busnes. Er mwyn sicrhau bod y busnes yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo, bydd y grant ar gael ochr yn ochr â phecyn cefnogaeth a fydd yn cynnwys cyngor un i un, gweminarau i fagu hyder mewn ymarferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.
Rhagor o wybodaethCymorth Arloesi Hyblyg SMART (SMART FIS)
Rydym yn helpu busnesau, y trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a sefydliadau ymchwil i arloesi a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Gall hynny gynnwys help i’w masnacholi, gwella sgiliau a sicrhau bod Cymru yn parhau’n gystadleuol ac yn gweithio i fod yn ddi-garbon yn y dyfodol. Mae Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART ar gael i unrhyw sefydliad gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd sydd am Ymchwilio, Datblygu ac Arloesi.
Rhagor o wybodaethUchelgais Gogledd Cymru Cronfa Ynni Glân
Mae cyllid ar gael yng Ngogledd Cymru i helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fuddsoddi mewn prosiectau ynni glân a datgarboneiddio, gyda’r nod o leihau costau, gwella effeithlonrwydd a chreu cyfleoedd newydd. Mae enghreifftiau o brosiectau cymwys yn cynnwys Cynhyrchu ynni adnewyddadwy a seilwaith, Atebion ynni deallus gan gynnwys storio, Effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio ac ôl-osod, a chyfleoedd mewn gweithgynhyrchu a’r gadwyn gyflenwi.
Rhagor o wybodaethCyngor Gwynedd Cronfa Benthyciadau Busnes
Bydd benthyciadau bach a wneir gan y Gronfa rhwng £25k a £100k, gyda’r cyfle i fenthyg symiau uwch (benthyciad Ased o hyd at £750k) cyn belled â’i fod wedi ei gefnogi gan warant seiliedig ar ased gwerth da (tir ac adeiladau yn nodweddiadol). Bydd hyd tymor arferol benthyciad bach rhwng 36 a 60 mis; bydd benthyciad Ased fel arfer am o leiaf 60 mis.
Rhagor o wybodaethBanc Datblygu Cymru | Benthyciadau Busnes Mawr
Boed a oes angen cyllid arnoch i wella cyfalaf gweithio, cyflymu twf, neu brynu busnes, mae yna fenthyciadau y gellir eu teilwra i gyd-fynd â’ch gofynion. Gyda rheolwyr cyfrif lleol yn cynnig cefnogaeth barhaus wyneb yn wyneb, maent yn sicrhau eu bod yn deall anghenion penodol eich busnes ac yn eich helpu chi i gyflawni’ch potensial. Gallant gyfuno benthyciadau a chyllid ecwiti, a gweithio ochr yn ochr â darparwyr cyllid eraill (banciau, cyllido torfol, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill) i gynnig pecyn cyllid unigryw ar gyfer eich busnes chi.
Rhagor o wybodaethBanc Datblygu Cymru | Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd
Boed ydych yn megis dechrau arni neu’n parhau ar y daith o ddatgarboneiddio eich busnes, mae’r Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn deniadol o gyllid i gefnogi’ch busnes. Mae yna fenthyciadau o rhwng £1,000 a £1.5m ar gael, yn ogystal â chyngor gan arbenigwyr a chyllid i dalu am wasanaeth ymgynghori ar ynni.
Rhagor o wybodaethSgiliau Gwyrdd i Gyflogwyr
Mae Sgiliau Gwyrdd y Cyflogwr yn cynnig hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn i fusnesau bach a chanolig ym Môn a Gwynedd. Drwy Busnes@LlandrilloMenai, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar dechnolegau gwyrdd, ôl-osod ac arweinyddiaeth, gan helpu busnesau i dyfu a dod yn rhan o gadwyni cyflenwi carbon isel.
Rhagor o wybodaethCronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)
O dan y rhaglen, gall Undebau Llafur gynnig i gyflwyno prosiectau hyfforddi tair blynedd o hyd sy’n canolbwyntio ar wella dysgu a sgiliau eu haelodau. Gall unigolion sy’n gweithio mewn unrhyw weithle undebol yng Nghymru, sydd naill ai’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, fod yn gymwys am gefnogaeth o ran hyfforddiant a datblygiad sgiliau drwy’r rhaglen WULF.
Rhagor o wybodaethCyllid Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfle i hyfforddi a datblygu gweithlu medrus a dawnus yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru gyda’r prosiect yn ariannu hyd at 80% o’r costau hyfforddi. Rydym yn cynnig mynediad a chyllid tuag at raglenni hyfforddi a chyrsiau wedi’u teilwra i helpu’ch busnes i ffynnu. O sesiynau rhithiol i gymwysterau ôl-raddedig gyda ffocws ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Marchnata a Gwerthu, Cynhyrchu a Gweithgynhyrchu, Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio, Ychwanegu Gwerth at Cydymffurfiaeth a Statudol, Pwrpasol ac Arweinir gan Fusnes.
Rhagor o wybodaethSgiliau Cyflogwyr Wrecsam
Mae Sgiliau Cyflogwyr Wrecsam yn ceisio cefnogi cyflogwyr gyda hyfforddiant â chymhorthdal. Bydd hwn yn cael ei gynnig i bob sector ond yn targedu meysydd twf rhanbarthol yn benodol gan gynnwys Gweithgynhyrchu Uwch, Carbon Isel, Digidol, Amaethyddiaeth, Bwyd a Thwristiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Rheolaeth a gweithwyr proffesiynol eraill.
Rhagor o wybodaethSgiliau Cyflogwyr Sir y Fflint
Mae Sgiliau Cyflogwyr Sir y Fflint yn ceisio cefnogi cyflogwyr gyda hyfforddiant â chymhorthdal. Bydd hwn yn cael ei gynnig i bob sector ond yn targedu meysydd twf rhanbarthol yn benodol gan gynnwys Gweithgynhyrchu Uwch, Carbon Isel, Digidol, Amaethyddiaeth, Bwyd a Thwristiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Rheolaeth a gweithwyr proffesiynol eraill.
Rhagor o wybodaethCronfa Sgiliau a Hyfforddiant
Parhewch i ddatblygu eich busnes gyda chymorth Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB. Rydym yn cefnogi busnesau canolig eu maint gyda hyd at £25,000, a busnesau bach a micro gyda hyd at £10,000 i uwchsgilio eich staff i wynebu’r dyfodol. Gellir defnyddio’r arian ar gyfer hyfforddiant mewn arweinyddiaeth a rheolaeth neu feysydd adeiladu a fydd yn diwallu anghenion eich tîm. Yn y pen draw, bydd mabwysiadu sgiliau newydd yn eich galluogi i wella effeithlonrwydd ac ehangu eich refeniw ymhellach, drwy dîm cymhellol sy’n barod i wynebu heriau’r dyfodol
Rhagor o wybodaethCynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd
Mae cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesi (SIV) yn cynnig cyfle i fusnesau sy’n gweithredu yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir y Fflint i gydweithio â Phrifysgol Bangor drwy Gynllun Cyllid Ffyniant Gyffredin. Mae dau fath o daleb ar gael: Midi hyd at £5,000 a Talent hyd at £5,000. Gellir defnyddio’r talebau ar gyfer y mathau canlynol o brosiectau a chydweithrediadau: Mynediad at Wybodaeth / Gwybodaeth Newydd, Prosiectau Ymchwil a Datblygu / Arloesi, Ymgynghoriaeth / Gwasanaethau Dadansoddol, DPP, Sgiliau a Hyfforddiant, Defnyddio offer arbenigol / cyfleusterau’r Brifysgol, a Chynlluniau Interniaeth i Raddedigion.
Rhagor o wybodaethReAct+
Mae ReAct+ yn cynnig pecyn cymorth i helpu rhywun sy’n 20 oed neu’n hŷn, sydd wedi cael ei effeithio gan ddiswyddiad yn ystod y 6 mis diwethaf ac sydd ag anabledd, i fynd yn ôl i’r gwaith yn gyflym. Pan fyddwch yn cyflogi recriwt cymwys, byddwn yn rhoi hyd at £4,000 i chi, a delir drwy bedwar rhandaliad yn ystod y 12 mis cyntaf i helpu i dalu eu cyflog.
Rhagor o wybodaethCyfrifon Dysgu Personol
Ydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru ac yn ennill llai na *£34,303 y flwyddyn ac yn edrych i ddatblygu gyrfa mewn sector blaenoriaeth? Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu hyblyg wedi’i ariannu’n llawn, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb neu gyfuniad o’r ddau. *Bellach nid oes cap ennill o £34,303 ar gyrsiau cymeradwy neu gymwysterau mewn sgiliau digidol neu sgiliau gwyrdd.
Rhagor o wybodaethRhaglen Sgiliau Hyblyg
Mae Rhaglen Sgiliau Hyblyg Busnes Cymru yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a gwella sgiliau eu gweithlu gan ganolbwyntio ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Sgiliau Digidol Uwch, Sgiliau Allforio, Peirianneg a Gweithgynhyrchu, Sector Creadigol, Heriau Net Sero, a Twristiaeth a Lletygarwch Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ofynnol i fusnesau fod wedi’u lleoli yng Nghymru, yn hyfyw, ac yn ymrwymedig i gwblhau hyfforddiant erbyn Mawrth 2026
Rhagor o wybodaethBenthyciadau dechrau busnes
Cyllid Arloesi
Cyllid busnes
Talebau sgiliau
Cwestiynau cyffredin
Eisiau gofyn mwy o gwestiynau? Anfonwch neges at ein tîm: helo@portal-gogledd.cymru
Sut allaf i gymryd rhan?
Sut ydw i’n defnyddio Portal Sgiliau Gogledd Cymru?