NEWYDDION

Cymorth gwerth £2.1 miliwn i helpu busnesau Cymru i fabwysiadu AI

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

12.01.2026

Something Different Wholesale is embracing AI to supercharge its operations

Bydd £2.1 miliwn o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod cymorth pwrpasol ar gael i helpu busnesau bach a chanolig ledled Cymru i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial (AI) a manteisio i’r eithaf ar ei botensial.

Bydd y cyllid yn grymuso busnesau bach a chanolig, entrepreneuriaid a microfusnesau yng Nghymru i integreiddio AI i’w harferion busnes yn foesegol ac yn effeithiol, gan wella cynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd.

Bydd gwasanaeth Busnes Cymru yn derbyn £600,000 i ddatblygu a darparu rhaglen gymorth ar gyfer ymwybyddiaeth o AI a mabwysiadu AI – gan weithredu argymhellion o adolygiadau tymor byr diweddar ar gynhyrchiant busnesau bach a chanolig a mabwysiadu AI.

Bydd £500,000 arall yn cael ei ddarparu i wella’r sectorau twristiaeth a digwyddiadau yng Nghymru yn sylweddol gan ddefnyddio AI. Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys Prosiect Peillio Deallusrwydd Artiffisial, gan weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr yng Nghanolfan Hwb Hartree Caerdydd (HCCH) a Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd (DTII), i gyflymu’r broses o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ymhlith trefnwyr digwyddiadau yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys arbenigedd digidol ar gyfer twristiaeth, gyda gweithdai wyneb yn wyneb wedi’u cynllunio i ddarparu sgiliau AI ymarferol ym maes marchnata digidol a chreu cynnwys ar gyfer hyd at 1,000 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig yn y sector twristiaeth yng Nghymru.

Bydd £1m arall yn gweld arlwy uwchsgilio AI yn cael ei ddatblygu drwy’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP). Bydd yn canolbwyntio ar bontio bylchau sgiliau digidol a chefnogi twf cynhwysol trwy sicrhau mynediad at hyfforddiant ar draws rhanbarthau a diwydiannau – gyda chyflogwyr yn talu dim ond 25% o gostau hyfforddi AI a 50% ar gyfer cyrsiau FSP eraill.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae’r cyllid pwysig hwn yn adeiladu ar arddangosfeydd pwerus o arloesedd, technoleg ac uchelgais Cymru mewn sectorau deinamig a blaengar yn ystod Wythnos Dechnoleg Cymru ac yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru.

Mae AI yn trawsnewid y sector busnes, yn gwella cynhyrchiant ac yn sbarduno newid. Bydd y rhaglen hon sy’n cynnwys ymwybyddiaeth o AI, mabwysiadu AI ac uwchsgilio yn ein helpu i sicrhau bod busnesau bach a chanolig ar draws pob sector yng Nghymru yn barod i wneud y gorau o botensial technolegau AI sy’n dod i’r amlwg mewn ffyrdd cyfrifol, cynhwysol ac uchelgeisiol.

Bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth roi’r Cynllun AI i Gymru ar waith, gan alluogi pobl, cymunedau a busnesau ym mhob cwr o Gymru i ddechrau gwireddu manteision deallusrwydd artiffisial.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau:

Rydym yn cydnabod potensial enfawr AI i sbarduno datblygiad busnesau a thwf economaidd ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi uchelgais busnesau bach a chanolig ledled Cymru i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo yn y dyfodol.

Mae ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg hynod lwyddiannus eisoes o fudd i filoedd o fusnesau ledled Cymru a bydd y £1 miliwn diweddaraf hwn o gyllid yn pontio bylchau o ran sgiliau digidol ac yn cyflymu’r broses o fabwysiadu AI mewn economi ddigidol sy’n esblygu’n gyflym.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Clywch yn uniongyrchol sut mae busnesau yng Ngogledd Cymru wedi defnyddio’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg i dyfu.

Cynghorydd Sgiliau Busnes Cymru yn defnyddio gliniadur i gyflwyno’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg