NEWYDDION

Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn rowndiau terfynol Worldskills UK

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

15.07.2025

Mae 16 o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol cystadlaethau WorldSkills UK a SkillBuild 2025.

Bydd myfyrwyr o Goleg Menai a Choleg Llandrillo, ynghyd â phrentisiaid Busnes@LlandrilloMenai, yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn lleoliadau ledled de Cymru o rhwng 25 a 28 Tachwedd.

Cyn hynny, bydd myfyriwr o Goleg Menai, Luke Quarless, yn dangos ei ddoniau yn rownd derfynol genedlaethol SkillBuild ym Milton Keynes (19 a 20 Tachwedd).

Y dysgwyr sydd wedi’u dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yw:

Coleg Menai:

  • Connie Whitfield – Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen
  • Oliver Weldon – Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen
  • Guy Geurtjens – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
  • Cai Owen – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
  • Aron Hughes – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
  • Matthew Owen – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
  • Richell Williams-Smith – Sgiliau Sylfaenol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Iwan Nicklin – Electroneg Ddiwydiannol

Coleg Llandrillo:

  • Kayleigh Blears – Trin Gwallt
  • Alwena Hughes – Trin Gwallt
  • Zack Arnold – Ynni Adnewyddadwy
  • Mckenzie Goodwin-Cotterill – ⁠Ynni Adnewyddadwy
  • Erin Price – Gwasanaeth Bwyty

Busnes@LlandrilloMenai:

  • Robat Jones – Technegydd Cyfrifyddu⁠
  • Lowri Hughes – Technegydd Cyfrifyddu

Bydd mwy na 400 o gystadleuwyr yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn 47 o sgiliau gwahanol; mae’n ddathliad cenedlaethol o hyfforddiant galwedigaethol a thechnegol o’r radd flaenaf.

Dywedodd Prif Weithredwr WorldSkills UK, Ben Blackledge: “Mae ein cystadlaethau’n profi sgiliau dysgwyr yn erbyn safonau diwydiant byd-eang, gan ddarparu llwyfan pwerus i arddangos eu talentau. Dros ddau ddiwrnod dwys o gystadlu byddant yn meithrin sgiliau a hyder gwerthfawr a fydd yn rhoi hwb i’w gyrfaoedd ac yn gwneud economi’r DU yn fwy cystadleuol.

Quote from

Gyda chyflogwyr ledled y DU yn gweiddi am sgiliau o ansawdd uchel, dyma gyfle gwych i gannoedd o ddysgwyr ddangos eu bod yn barod am waith. Rwy’n edrych ymlaen i weld y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ar waith.

Bydd 80 o gystadleuwyr o bob cwr o’r DU yn cymryd rhan yn rownd derfynol genedlaethol SkillBuild, cystadleuaeth aml-grefft fwyaf y DU ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion adeiladu.