Dysgu Seiliedig ar Waith
Dysgwch sut all prentisiaethau a phrofiad gwaith roi hyfforddiant ymarferol a chefnogaeth werthfawr i chi a’ch gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Manteision prentisiaeth
Mae busnesau o bob maint ac ar draws pob sector yn gymwys ar gyfer prentisiaethau, ac yn gallu elwa o:
- Gostyngiad mewn costau recriwtio a hyfforddi: Ffordd gost-effeithiol o recriwtio a hyfforddi staff newydd.
- Cynhyrchiant uwch: Dod â sgiliau a safbwyntiau newydd i’ch busnes.
- Llenwi unrhyw fylchau sgiliau: Hyfforddiant wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion eich busnes.
- Cadw gweithwyr: Cynyddu teyrngarwch gweithwyr a lleihau trosiant staff.
- Twf busnes: Mae gweithlu medrus yn gyrru arloesedd a chystadleurwydd.
- Diogelu dyfodol eich busnes: Adeiladu piblinell o dalent gyda’r sgiliau y bydd eu hangen ar eich busnes yn y dyfodol.

Lefelau prentisiaethau
Prentisiaeth sylfaen
Prentisiaeth
Prentisiaeth Uwch
Gradd-brentisiaeth
Lefel 2 | Cyfwerth â 5 TGAU
Ar gael mewn Amaeth a’r Amgylchedd, Gweinyddu Busnes, Technoleg Ddigidol, Bwyd a Diod, Gwallt a Harddwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu, a Manwerthu a Lletygarwch.
Prentisiaeth sylfaen
Prentisiaeth
Prentisiaeth Uwch
Gradd-brentisiaeth
Yn ôl 33% o gyflogwyr, mae prentisiaethau wedi helpu i wella amrywiaeth yn eu gweithlu.
stmartinsgroup.org